- Mae Cyllideb yr Hydref wedi'i chanslo gan y Canghellor oherwydd yr ansicrwydd a achosir gan Covid-19. Yn lle hynny, cyhoeddwyd mesurau cymorth ariannol pellach, gan gynnwys y Cynllun Cymorth Swyddi ar gyfer gweithwyr sy'n gweithio o leiaf traean o'u horiau arferol, yn ogystal â chadarnhad bydd trydydd a phedwerydd grant ar gyfer yr hunan gyflogedig ar gael dros y misoedd nesaf.
Bydd hefyd modd gohirio taliadau treth incwm hunanasesiad o hyd at £30,000 sy'n ddyledus erbyn 31 Ionawr 2021 trwy wneud cais i ddefnyddio cynllun "Amser Ychwanegol i Dalu" y Swyddfa Dreth, ond codir llog o 2.6% ar y symiau sy'n ddyledus.
- Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi eu bod yn ailagor eu Cronfa Cadernid Economaidd yn ystod yr wythnos sy'n dechrau 26 Hydref 2020. Mae'r gronfa hon yn cynnig grantiau o hyd at £10,000 ar gyfer busnesau micro, hyd at £150,000 ar gyfer busnesau bach a chanolig a hyd at £200,000 ar gyfer busnesau mawr. Mae gwiriwr cymhwysedd eisoes wedi'i lansio a gellir dod o hyd i'r manylion llawn yma:
https://fundchecker.businesswales.gov.wales/erfphase3/cy
Yn ogystal, yn dilyn y cyhoeddiad gan Mark Drakeford am y cyfnod clo cenedlaethol o nos Wener 23 Hydref, mae rhagor o ffynonellau cymorth ariannol ar gael. Ewch i wefan Busnes Cymru am fwy o fanylion.
- Nid yw nifer o fanciau ap ar-lein, fel Tide a Coconut, yn dod o dan y Cynllun Iawndal Gwasanaethau Ariannol (FSCS) sy'n amddiffyn blaendaliadau o hyd at £85,000 fesul sefydliad ariannol. Os oes gennych gynilion sylweddol gyda'r banciau ap ar-lein hyn, ystyriwch rhannu'ch cynilion ar draws sawl banc sy'n cynnig amddiffyniad FSCS.
Cwestiynau Huw ac Aled: dwi'n wreiddiol o Sbaen a dwi wedi bod yn byw ac yn gweithio yn y DU ers y 5 mlynedd diwethaf ac yn perchen ar dŷ rhent yn Sbaen. Byddaf yn symud yn barhaol i Ffrainc i weithio fis nesaf. A fyddaf yn talu treth y Deyrnas Unedig (DU) ar fy incwm yn Sbaen?
Pan symudwch i mewn neu allan o'r DU, mae posibilrwydd y bydd eich blwyddyn dreth yn derbyn "triniaeth blwyddyn hollt". Er eich bod yn ddinesydd tramor, am y cyfnod yr ydych yn preswylio yn y DU, fel rheol mae incwm ledled y byd yn ddarostyngedig i'r DU, llai unrhyw dreth a dalwyd tramor. Os byddwch yn gadael y DU hanner ffordd trwy flwyddyn dreth, bydd eich treth yn y DU yn seiliedig ar incwm a dderbynnir yn y DU hyd at y dyddiad gadael ynghyd ag incwm tramor a enillwyd hyd at y dyddiad gadael o'r DU.
Gall sefyllfaoedd fel hyn fynd yn gymhleth yn gyflym iawn, felly cysylltwch â ni os oes gennych chi neu'ch teulu unrhyw ymholiadau yn ymwneud ag incwm tramor.

