Cymraeg
Cymraeg

Sefydlwyd Cyfrifwyr Huw Aled Accountants ym mis Chwefror 2020 er mwyn rhoi cymorth i unigolion gyda'u cyfrifon a'u trethi. Rydym yn arbenigo mewn cyfrifon a threthi ar gyfer unigolion hunan gyflogedig, landlordiaid, uwch reolwyr ac ‘expats’. Mae'r iaith Gymraeg yn bwysig iawn i Huw ac Aled gan eu bod nhw’n dau yn Gymry Cymraeg iaith gyntaf.

  1. Bydd ceisiadau am y pedwerydd grant o dan y Cynllun Cymorth Incwm Hunangyflogaeth yn agor "o ddiwedd Ebrill 2021" yn ôl gwefan y Llywodraeth. Bydd hyn yn seiliedig ar 80% o gyfartaledd elw. Ceir y manylion yn llawn yma:

https://www.gov.uk/guidance/claim-a-grant-through-the-self-employment-income-support-scheme.cy

 

  1. Os ydych chi'n gweithio fel contractwr llawrydd, efallai bydd y rheolau IR35 newydd a ddaeth i rym ar 6 Ebrill 2021 yn cael effaith arnoch chi. Mae'r rheolau hyn wedi rhoi mwy o faich ar gwmnïau sy'n cyflogi contractwyr i asesu a ddylid eu trin fel gweithwyr ar y gyflogres. Mae'r Swyddfa Dreth wedi cyhoeddi teclyn ar-lein a all helpu unigolion i asesu effaith posib y canllawiau IR35 newydd:

https://www.gov.uk/guidance/check-employment-status-for-tax

 

  1. Yn dilyn y Gyllideb ym mis Mawrth, mae sawl benthyciwr ar y stryd fawr wedi lansio morgais 95%. Nod rhain yw i helpu pobl ifanc i brynu tai. Gwnewch yn siwr eich bod yn ymchwilio'r opsiynau morgais yn fanwl i ddarganfod y bargeinion gorau.

 

  1. Byddwch yn wyliadwrus o e-byst a thaflenni sy'n hysbysebu am gyfleoedd i fuddsoddi mewn cyrchfannau gwyliau. Yn aml iawn, dyw'r enillion addawedig ddim yn cynnwys y ffioedd sylweddol sy'n daladwy ac maent yn seiliedig ar gyfraddau deiliadaeth afrealistig.

 

  1. Mae'r Swyddfa Dreth wedi lansio ap sy'n caniatáu i ddefnyddwyr i gael mynediad i'w holl data treth incwm mewn un lle. Er enghraifft, os buoch chi'n gweithio i sawl cyflogwr yn ystod y flwyddyn dreth, ond rydych wedi colli'r P60 neu P45, dylai'r ap gynnwys yr holl wybodaeth yma. Ceir y manylion yn llawn yma:

https://www.gov.uk/government/publications/the-official-hmrc-app/the-free-hmrc-app

 

Cwestiynau Huw ac Aled: dwi'n weithiwr llawrydd yn y celfyddydau ac wedi gweld gostyngiad sylweddol yn fy incwm dros y flwyddyn diwethaf. Oes cymorth penodol ar gael i bobl sy'n gweithio yn y celfyddydau?

Mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau bydd y Gronfa Adferiad Diwylliannol i weithwyr llawrydd yn agor ar ddechrau mis Mai. Does dim manylion wedi cael eu cyhoeddi hyd yn hyn ynglŷn â'r amodau na'r swm ariannol fydd ar gael. Bydd y manylion yn cael eu cyhoeddi ar y wefan canlynol, maes o law:

https://businesswales.gov.wales/coronavirus-advice/cy

Gwylio'r Geiniog

Our Services

One of the most significant changes to personal income tax is taking place from April 2026 onwards and action is…
Huw and Aled are specialists in the field of taxation for individuals, in particular the preparation of self assessment tax…
Huw and Aled have significant experience in assisting individuals with understanding, quantifying and reporting their capital gains tax liabilities to…
Expat taxation services are offered to expats who are living abroad on a temporary or permanent basis. Our client base…
Slide 1a
Image is not available

"You have made what is a complicated situation very clear. Thank you very much for your contribution."
"Rydych chi wedi gwneud yr hyn sy'n sefyllfa gymhleth yn glir iawn. Diolch yn fawr iawn am eich cyfraniad."

Dewi Llwyd
Dros Ginio (BBC Radio Cymru)
Slide 1

“Thank you so much for sorting out my capital gains tax. I can finally put closure on the situation, which believe me is a huge weight off my shoulders.”

Slide 1

“Diolch yn fawr am eich cymorth. Rydych wedi bod yn help mawr ac wedi rhoi tawelwch meddwl i fi.”

“Thank you very much for your assistance. You have been a real help and given me peace of mind.”

Slide 1

From a client who's originally from Germany and has started working self-employed in the UK. We've been helping her to understand the UK tax system:

“Thank you very much for your patience, I really appreciate it. If only we could have lectures at university about things like this! That makes perfect sense, thank you very much.”

Slide 1

"Thanks once again for your help this year. I've had a bit of a nightmare with accountants in the last few years. I'm so glad to have found one who is so approachable and knowledgeable and a nice bloke to top it off."

Slide 1

“Diolch yn fawr iawn Aled am eich gwaith trylwyr. Mae'r cwmwl wedi codi!”

"Thank you very much Aled for your thorough work. The clouds have lifted!"

Slide 1

"I just received your newsletter today. As you know, I live out of the country and hence find it slightly difficult to keep up to date with the financial updates within the UK. Your newsletters are heaven-sent, for me. Please keep up the good work."

Slide 1

"Huw Aled Accountants have been a lifeline throughout the COVID-19 pandemic, notifying me of several grants and funds to which I could apply for my business, having been ineligible for government schemes. I am very grateful for their continued support and expertise."

Slide 1

"Your newsletter alerted me to a support fund made available to freelancers as a result of Covid-19. I have successfully received funding, which has made a significant difference to me at a time when work has dried up during lockdown. Thank you very much for all your support!"

Slide 1


"I want to express my sincere gratitude for your efficient service. It has truly been a breath of fresh air."

previous arrow
next arrow