- Gan bod bron deufis wedi mynd heibio ers dechrau'r flwyddyn dreth newydd, rydym wedi dechrau gweld patrymau yn y cyfrifon sy'n cael eu paratoi. Y ddau prif thema hyd yn hyn yw:
- Incwm grant: mae mwyafrif helaeth o grantiau yn drethadwy, felly cofiwch gynnwys manylion yr holl incwm grant a dderbyniwyd yn eich cyfrifon.
- Lwfans am weithio o adref: os nad ydych wedi gwneud hynny eisoes, gwnewch yn siŵr eich bod wedi hawlio'r lwfans am weithio o adref ar gyfer 2020-2021.
- Gyda cyfyngiadau teithio yn codi, mae nifer o weithwyr llawrydd yn ail-ddechrau teithio i'r Undeb Ewropeaidd (UE) i weithio. Ers Brexit, mae angen i weithwyr llawrydd sy'n gweithio'n rheolaidd yn yr UE gwblhau cryn dipyn o waith papur er mwyn cael caniatâd i weithio. Mae angen ardystio llawer o'r dogfennau hyn. Cysylltwch â ni os oes angen ardystiad o ddogfennau arnoch chi ar gyfer y ceisiadau yma.
- Yn ddiweddar, gwnaethom gynghori unigolyn oedd yn ennill symiau bach o arian o hysbysebion a oedd yn cael eu rhoi ar eu fideos YouTube. Gan fod Google yn perchen ar YouTube, roedd yn rhaid anfon datganiadau i'r awdurdodau treth yn yr Unol Daleithiau i sicrhau mai dim ond unwaith (yn y DU) y trethwyd yr incwm yma.
- Mae sgamiau diweddar yn cynnwys galwadau lle mae pobl yn honni eu bod o'r Swyddfa Dreth. Maent yn hysbysu unigolion y byddant yn cael eu harestio o achos ffurflen dreth hwyr oni bai eu bod yn gwneud taliad yn syth iddynt. Cadwch yn wyliadwrus o'r sgamiau ymosodol yma.
Cwestiynau Huw ac Aled: rwyf wedi ysgaru ddwywaith gyda 2 o blant sydd wedi tyfu i fyny. Dwi wedi dod o hyd i gariad eto ac yn bwriadu ailbriodi yn ddiweddarach eleni. Allwch chi ddarparu rhywfaint o wybodaeth ar gytundebau cyn-priodasol?
Defnyddir y cytundebau yma i ddiogelu, rhywfaint, sefyllfa ariannol teulu presennol yr unigolyn. Dylech chi'ch dau gael cyngor cyfreithiol annibynnol gan gyfreithwyr ar wahân. Rhaid ymrwymo i'r cytundeb o'ch gwirfodd ac mae'n rhaid bod y ddau ohonoch yn ymwybodol o ba asedau rydych chi'ch dau yn eu perchen. Gall hyn fod yn bwnc anodd i'w drafod oherwydd yn ei hanfod, rydych yn cynllunio ar gyfer chwalu'r briodas newydd. Mae cyngor cyfreithiol cadarn yn hanfodol. Pob dymuniad da a tri chynnig i Gymro!

