- Tan eleni, roedd dim ond modd defnyddio colledion hunan gyflogedig yn erbyn incwm arall yn yr un flwyddyn dreth â'r colledion neu'r flwyddyn dreth flaenorol. Yn sgîl y pandemig, mae'n bosib bellach i gario colledion hunan gyflogedig o flynyddoedd treth 2020-2021 a 2021-2022 a'u defnyddio yn erbyn elw o'r 3 blynedd dreth ddiwethaf. Mae hyn yn newyddion calonogol i'r rheini sydd wedi gwneud colled ers y pandemig.
- Cyhoeddodd Banc Tesco yn ddiweddar y byddant yn cau pob cyfrif cyfredol erbyn 30 Tachwedd 2021. Sicrhewch eich bod yn ymchwilio i ba fanc sydd â'r cynigion gorau ar eu cyfrifon cyfredol pan fyddwch chi'n newid banc ac eich bod yn gwirio ei fod yn fanc sefydledig a rheoledig.
- Os ydych yn prynu tŷ a adeiladwyd yn ystod yr 20 mlynedd diwethaf, gwiriwch yn ofalus iawn os yw'r tŷ ar brydles ('leasehold') ac os felly, archwiliwch y taliadau gwasanaeth blynyddol / rhent daear parhaus oherwydd gall rhain fod yn ddrud iawn.
Mae adroddiadau papur newydd diweddar yn nodi bod rhai prynwyr wedi dwyn achos cyfreithiol yn erbyn eu cyfreithwyr (a argymhellir yn aml gan yr adeiladwyr tai) am beidio ag egluro'r taliadau dan sylw yn llawn pan yn prynu'r tŷ.
Cwestiynau Huw ac Aled: fel ysgutor ystâd fy ewythr, rwyf ar fin talu bil treth etifeddiaeth ar ystâd sy'n cynnwys portffolio arian digidol ('cryptocurrency'). Mae gwerth y portffolio wedi gostwng yn sylweddol ers iddo farw. A gaf i hawlio i ostwng y bil treth o ganlyniad i'r gostyngiad yng ngwerth y portffolio?
Pan gwblhawyd y ffurflenni treth etifeddiaeth, byddai prisiad swyddogol wedi ei gael o'r portffolio arian digidol a byddai'r bil treth yn seiliedig ar y prisiad hwn.
Mae rhyddhad treth etifeddiaeth ar gael i ysgutorion lle mae asedau wedi cwympo mewn gwerth rhwng dyddiad y farwolaeth a phan werthir yr ased. Mae'r rhyddhad hwn yn berthnasol i werthu tir a chyfranddaliadau a ddyfynnir (yn ddibynnol ar amodau penodol). O dan y ddeddfwriaeth gyfredol, nid yw'r rhyddhad yn berthnasol i arian digidol.
Mewn amgylchiadau prin, gallai hyn arwain at fil treth etifeddiaeth sy'n uwch na gwerth y portffolio arian digidol.
Os ydych chi'n poeni am effaith treth etifeddiaeth ar bortffolio arian digidol, cysylltwch â ni.

