Cymraeg
Cymraeg

Sefydlwyd Cyfrifwyr Huw Aled Accountants ym mis Chwefror 2020 er mwyn rhoi cymorth i unigolion gyda'u cyfrifon a'u trethi. Rydym yn arbenigo mewn cyfrifon a threthi ar gyfer unigolion hunan gyflogedig, landlordiaid, uwch reolwyr ac ‘expats’. Mae'r iaith Gymraeg yn bwysig iawn i Huw ac Aled gan eu bod nhw’n dau yn Gymry Cymraeg iaith gyntaf.

  1. Os yw'ch car ar gytundeb 'PCP' sydd ar fin dod i ben, gwiriwch y pris y gallwch chi brynu'r car a gafodd ei gytuno ar ddechrau'r cytundeb. Gyda phrisiau ceir ail-law mor uchel, efallai gallwch wneud elw trwy brynu ac ailwerthu’r car. Gwerthodd Huw gar trwy Cazoo a chafodd yr arian ei drosglwyddo i'w gyfrif banc ar yr un diwrnod.

  2. Mae nifer wedi colli arian yn ddiweddar i sgamiau arian rhithiol ('cryptocurrency'), gan gynnwys sgam yn ymwneud ag arian rhithiol a ysbrydolwyd gan y gyfres Netflix, 'Squid Game'.

    Sicrhewch eich bod yn cwblhau gwaith ymchwil trwyadl cyn prynu arian rhithiol. Hyd yn oed gyda chynigion arian rhithiol dilys, mae'n hawdd iawn ei brynu ond yn aml yn anodd iawn i chi gael eich arian yn ôl.
  3. Mae buddsoddiadau moesol neu 'ESG' wedi cael mwy o sylw yn ddiweddar yn sgîl cynhadledd COP26. Os ydych chi wedi buddsoddi mewn sawl cronfa moesol gwahanol, mae'n bosib eu bod nhw i gyd wedi buddsoddi yn yr un cwmnïau. Gwiriwch nad ydych chi wedi buddsoddi gormod gyda nifer cyfyngedig o gwmnïau. Mae cadw portffolio cytbwys o fuddsoddiadau yn bwysig.

Cwestiynau Huw ac Aled: byddaf yn symud i Awstralia am 3 blynedd gyda fy ngwaith ac rwy'n bwriadu rhentu fy nghartref presennol yng Nghaerdydd nes i mi ddychwelyd. A fydd angen i mi dalu treth incwm Prydeinig ar yr incwm rhent er fy mod yn preswylio yn Awstralia? Os felly, a fyddaf yn talu treth ddwywaith (yn Awstralia ac ym Mhyrdain)?

Os ydych chi'n byw tramor, mae angen talu treth ym Mhrydain ar unrhyw incwm sy'n deillio o Brydain. Bydd angen i chi ddatgan yr incwm rhent i'r Swyddfa Dreth ar ôl i chi symud i Awstralia.

Gan y byddwch chi'n preswylio yn Awstralia, mae'n debygol y bydd angen i chi hefyd ddatgan eich incwm rhent ym Mhrydain i awdurdodau treth Awstralia.

O ganlyniad, bydd angen i chi gyflwyno ffurflenni treth yn Awstralia a Phrydain er mwyn datgan yr incwm rhent Prydeinig, ond bydd unrhyw dreth a dalwyd ym Mhrydain yn gallu cael ei ddefnyddio i leihau bil treth Awstralia.

Yn ystod yr wythnosau diwethaf, rydym wedi cynorthwyo unigolion sy'n symud i Rwsia, Singapore, Awstralia, UDA, Iwerddon a Hong Kong gyda'u hymholiadau treth. Cysylltwch â ni os ydych chi neu os yw aelodau o'ch teulu yn ystyried symud dramor, naill ai am gyfnod dros dro neu'n barhaol.

Gwylio'r Geiniog

Our Services

One of the most significant changes to personal income tax is taking place from April 2026 onwards and action is…
Huw and Aled are specialists in the field of taxation for individuals, in particular the preparation of self assessment tax…
Huw and Aled have significant experience in assisting individuals with understanding, quantifying and reporting their capital gains tax liabilities to…
Expat taxation services are offered to expats who are living abroad on a temporary or permanent basis. Our client base…
Slide 1a
Image is not available

"You have made what is a complicated situation very clear. Thank you very much for your contribution."
"Rydych chi wedi gwneud yr hyn sy'n sefyllfa gymhleth yn glir iawn. Diolch yn fawr iawn am eich cyfraniad."

Dewi Llwyd
Dros Ginio (BBC Radio Cymru)
Slide 1

“Thank you so much for sorting out my capital gains tax. I can finally put closure on the situation, which believe me is a huge weight off my shoulders.”

Slide 1

“Diolch yn fawr am eich cymorth. Rydych wedi bod yn help mawr ac wedi rhoi tawelwch meddwl i fi.”

“Thank you very much for your assistance. You have been a real help and given me peace of mind.”

Slide 1

From a client who's originally from Germany and has started working self-employed in the UK. We've been helping her to understand the UK tax system:

“Thank you very much for your patience, I really appreciate it. If only we could have lectures at university about things like this! That makes perfect sense, thank you very much.”

Slide 1

"Thanks once again for your help this year. I've had a bit of a nightmare with accountants in the last few years. I'm so glad to have found one who is so approachable and knowledgeable and a nice bloke to top it off."

Slide 1

“Diolch yn fawr iawn Aled am eich gwaith trylwyr. Mae'r cwmwl wedi codi!”

"Thank you very much Aled for your thorough work. The clouds have lifted!"

Slide 1

"I just received your newsletter today. As you know, I live out of the country and hence find it slightly difficult to keep up to date with the financial updates within the UK. Your newsletters are heaven-sent, for me. Please keep up the good work."

Slide 1

"Huw Aled Accountants have been a lifeline throughout the COVID-19 pandemic, notifying me of several grants and funds to which I could apply for my business, having been ineligible for government schemes. I am very grateful for their continued support and expertise."

Slide 1

"Your newsletter alerted me to a support fund made available to freelancers as a result of Covid-19. I have successfully received funding, which has made a significant difference to me at a time when work has dried up during lockdown. Thank you very much for all your support!"

Slide 1


"I want to express my sincere gratitude for your efficient service. It has truly been a breath of fresh air."

previous arrow
next arrow