Cymraeg
Cymraeg

Sefydlwyd Cyfrifwyr Huw Aled Accountants ym mis Chwefror 2020 er mwyn rhoi cymorth i unigolion gyda'u cyfrifon a'u trethi. Rydym yn arbenigo mewn cyfrifon a threthi ar gyfer unigolion hunan gyflogedig, landlordiaid, uwch reolwyr ac ‘expats’. Mae'r iaith Gymraeg yn bwysig iawn i Huw ac Aled gan eu bod nhw’n dau yn Gymry Cymraeg iaith gyntaf.

Rhai materion ariannol i'w hystyried ar ddechrau'r Flwyddyn Newydd:

  • A oes gennych ewyllys clir, cyfredol? Gall Huw ddrafftio eich ewyllys a gwirio eich sefyllfa treth etifeddiaeth. Bydd Huw wedyn yn gweithio gyda chyfreithiwr dwyieithog lleol a fydd yn cwblhau'r gwaith trwy Zoom heb fod angen i chi ymweld â swyddfa unrhyw gyfreithiwr.
  • Os oes angen trefnu Atwrneiaeth ('Power of Attorney') arnoch chi'ch hun neu i berthynas oedrannus, cysylltwch â Huw.
  • Ystyriwch gosod eich morgais am dymor penodol gan fod nifer yn rhagweld cynnydd mewn cyfraddau llog eleni.
  • Mae rheolau yswiriant newydd yn golygu na ddylai prisiau adnewyddu fod yn uwch na phrisiau ar gyfer cwsmeriaid newydd. Gwiriwch bod eich dyfynbris adnewyddu yn rhesymol trwy ddefnyddio gwefannau cymharu prisiau.

 

Mae Llywodraeth Cymru wedi lansio nifer o grantiau trwy'r Cronfa Cadernid Economaidd. Mae cymorth ar gael i fusnesau sy'n talu ardrethi busnes (symiau amrywiol ar gael), i weithwyr llawrydd (£500 ar gael) ac i fusnesau sy'n cyflogi pobl ond nad ydynt yn talu ardrethi busnes (£2,000 ar gael). Ceir y manylion yn llawn yma:

https://businesswales.gov.wales/cy/newyddion-blogiau/newyddion/gwiriwr-cymhwysedd-cymorth-busnes-cronfa-cadernid-economaidd-covid-19-rhagfyr-2021-chwefror-2022

 

Yn ddiweddar, derbyniodd unigolyn, sydd ddim yn llenwi ffurflenni treth, 3 asesiad treth gan y Swyddfa Dreth, yn dangos symiau sylweddol o dreth heb eu talu o rai blynyddoedd yn ôl. Mae dyletswydd ar y Swyddfa Dreth i gyhoeddi asesiadau o fewn cyfnod o amser rhesymol. Os yw'r Swyddfa Dreth yn araf yn prosesu gwybodaeth, mae’n bosibl cyflwyno apêl o dan 'Consesiwn Statudol Ychwanegol A19'. Os ydych chi neu berthynas oedrannus yn derbyn galwadau annisgwyl wrth y Swyddfa Dreth, cysylltwch â ni i drefnu apêl.

 

Cwestiynau Huw ac Aled: dwi wedi darllen ar-lein bod llawer o enwogion wedi lleihau eu treth etifeddiaeth trwy ddefnyddio amryw o gynlluniau. Allwch chi ddweud ychydig wrthyf am y gwahanol opsiynau sydd ar gael?

Yn ein cyfres newydd ar strategaethau cynllunio treth etifeddiaeth a fabwysiadwyd gan ffigyrau enwog, rydym yn dechrau gyda'r cyn wleidydd Llafur, Tony Benn. Gwnaeth ei deulu arwyddo 'Gweithred Amrywio' (neu 'Deed of Variation') i newid telerau ei ewyllys ar ôl iddo farw. Gall y broses hon fod yn ddefnyddiol os yw'r unigolyn gwreiddiol sydd am etifeddu'r ystâd yn penderfynu trosglwyddo canran o'u hetifeddiaeth i'r genhedlaeth nesaf neu i roi eu hetifeddiaeth i elusen. Mae ystâd yr unigolyn hwn wedyn yn is, gan leihau treth etifeddiaeth yn y dyfodol.

Gwylio'r Geiniog

Our Services

One of the most significant changes to personal income tax is taking place from April 2026 onwards and action is…
Huw and Aled are specialists in the field of taxation for individuals, in particular the preparation of self assessment tax…
Huw and Aled have significant experience in assisting individuals with understanding, quantifying and reporting their capital gains tax liabilities to…
Expat taxation services are offered to expats who are living abroad on a temporary or permanent basis. Our client base…
Slide 1a
Image is not available

"You have made what is a complicated situation very clear. Thank you very much for your contribution."
"Rydych chi wedi gwneud yr hyn sy'n sefyllfa gymhleth yn glir iawn. Diolch yn fawr iawn am eich cyfraniad."

Dewi Llwyd
Dros Ginio (BBC Radio Cymru)
Slide 1

“Thank you so much for sorting out my capital gains tax. I can finally put closure on the situation, which believe me is a huge weight off my shoulders.”

Slide 1

“Diolch yn fawr am eich cymorth. Rydych wedi bod yn help mawr ac wedi rhoi tawelwch meddwl i fi.”

“Thank you very much for your assistance. You have been a real help and given me peace of mind.”

Slide 1

From a client who's originally from Germany and has started working self-employed in the UK. We've been helping her to understand the UK tax system:

“Thank you very much for your patience, I really appreciate it. If only we could have lectures at university about things like this! That makes perfect sense, thank you very much.”

Slide 1

"Thanks once again for your help this year. I've had a bit of a nightmare with accountants in the last few years. I'm so glad to have found one who is so approachable and knowledgeable and a nice bloke to top it off."

Slide 1

“Diolch yn fawr iawn Aled am eich gwaith trylwyr. Mae'r cwmwl wedi codi!”

"Thank you very much Aled for your thorough work. The clouds have lifted!"

Slide 1

"I just received your newsletter today. As you know, I live out of the country and hence find it slightly difficult to keep up to date with the financial updates within the UK. Your newsletters are heaven-sent, for me. Please keep up the good work."

Slide 1

"Huw Aled Accountants have been a lifeline throughout the COVID-19 pandemic, notifying me of several grants and funds to which I could apply for my business, having been ineligible for government schemes. I am very grateful for their continued support and expertise."

Slide 1

"Your newsletter alerted me to a support fund made available to freelancers as a result of Covid-19. I have successfully received funding, which has made a significant difference to me at a time when work has dried up during lockdown. Thank you very much for all your support!"

Slide 1


"I want to express my sincere gratitude for your efficient service. It has truly been a breath of fresh air."

previous arrow
next arrow