Cyhoeddodd y Canghellor, Rishi Sunak, Datganiad y Gwanwyn ar 23ain o Fawrth 2022. Dyma rhai o'r prif gyhoeddiadau ar gyfer unigolion:
Y prif bennawd yw bod disgwyl i chwyddiant godi i 7.4% eleni (ar gyfartaledd), gan gyrraedd 9% erbyn diwedd y flwyddyn. Mae hyn yn golygu bydd prisiau nwyddau yn parhau i godi am weddill y flwyddyn.
Mae'r trothwy cyn bod rhaid talu Yswiriant Gwladol yn codi o £9,568 i £12,570. Ond, mae cyfraddau Yswiriant Gwladol (YG) yn codi 1.25c i bob punt o enillion o fis Ebrill.
Mae hyn yn golygu byddwch chi ar eich ennill os ydych yn ennill hyd at tua £34,000. Byddwch yn arbed tua £180 o YG os ydych yn ennill £20,000 tra bydd unigolyn sy'n ennill £50,000 yn talu YG ychwanegol o tua £200 y flwyddyn.
Bydd budddaliadau (e.e. Credyd Cynhwysol) a'r pensiwn gwladol yn codi 3.1% o fis Ebrill. Mae'r cynnydd yma tipyn yn llai na lefelau chwyddiant, felly bydd unigolion ar eu colled o ystyried effaith chwyddiant.
Bydd cymorth ar gael i'r mwyaf difreintiedig er mwyn dygymod â chostau ynni trwy gronfa penodol ('Household Support Fund') a weinyddir gan awdurdodau lleol.
Os bydd meini prawf ynglŷn â'r economi yn cael eu bodloni yn 2024, bydd cyfradd sylfaenol treth incwm yn gostwng o 20% i 19% (amser a ddengys os bydd hyn yn cael ei wireddu).
Cwestiynau Huw ac Aled: dwi wedi darllen ar-lein bod llawer o enwogion wedi lleihau eu treth etifeddiaeth trwy ddefnyddio amryw o gynlluniau. Allwch chi ddweud ychydig wrthyf am y gwahanol opsiynau sydd ar gael? (Rydym yn barod wedi trafod buddsoddiadau treth-effeithiol a Gweithred Amrywio, neu 'Deed of Variation')
Y bwlch treth “Ronnie Corbett”. Gwnaeth y digrifwr, tra yr oedd mewn iechyd da, leihau ei eiddo a rhoi symiau sylweddol i'w blant oedd yn oedolion. Wrth goroesi 7 mlynedd ar ôl y rhoddion, doedd y rhoddion ddim yn drethadwy o dan canllawiau treth etifeddiaeth.
Gallwch hefyd roi symiau misol yn ddi-dreth o'ch incwm os yw'r rhoddion yn fforddiadwy o'ch incwm misol. Sicrhewch fod gennych mwy na digon o arian i gwrdd â'ch anghenion eich hun.

