1. Rydym yn argymell bod unigolion hunangyflogedig yn gwirio eu cofnod Yswiriant Gwladol (YG) i sicrhau bod eu cofnod yn adlewyrchu’r taliadau YG a wnaed drwy eu ffurflenni treth. Mae nifer wedi darganfod camgymeriadau yn eu cofnod pan yn ymddeol, ond erbyn hynny mae'n rhy hwyr i'w gywiro a gall hyn arwain at bensiwn gwladol is na'r disgwyl pan yn ymddeol.
Os ydych yn dargangfod anghysondebau yn eich cofnod, cysylltwch â'ch cyfrifydd. I wirio eich cofnod YG, ewch i:
https://www.gov.uk/gwirio-cofnod-yswiriant-gwladol
2. Mae nifer wedi dioddef sgamiau 'dynwared' yn ddiweddar lle mae twyllwyr yn honni mai nhw yw eich banc ac yn eich hysbysu bod yna 'broblem' gyda'ch cyfrif. Maent yn eich hysbysu, am resymau diogelwch, y dylid trosglwyddo arian i gyfrif gwahanol, neu maent yn eich twyllo i rannu cyfrineiriau neu wybodaeth bersonol.
Gall y sgamwyr hyd yn oed wneud iddi ymddangos eu bod yn ffonio o'r un rhif â'ch banc. Ni fydd eich banc go iawn byth yn gofyn i chi symud arian i gyfrif arall felly os ydych yn ansicr a ydynt yn sgamwyr, rhowch y ffôn i lawr!
Cwestiynau Huw ac Aled: dwi wedi darllen ar-lein bod llawer o enwogion wedi lleihau eu treth etifeddiaeth trwy ddefnyddio amryw o gynlluniau. Allwch chi ddweud ychydig wrthyf am y gwahanol opsiynau sydd ar gael? (Rydym yn barod wedi trafod buddsoddiadau treth-effeithiol, Gweithred Amrywio a bwlch treth 'Ronnie Corbett'.)
Pan fu farw Bruce Forsyth gadawodd ei holl ystâd o £11,500,000 i'w drydedd wraig, gan hawlio eithriad llawn o dreth etifeddiaeth. Fodd bynnag, er ei fod yn osgoi treth etifeddiaeth i ddechrau, nid oedd ei ewyllys syml yn datrys pob problem.
• Gadawyd y cyfrifoldeb o gynllunio/dosbarthu'r ystâd i'w wraig. Gall swm sylweddol o dreth etifeddiaeth fod yn daladwy pan bydd y wraig yn marw.
• Ni dderbyniodd y 6 plentyn o'i 3 priodas unrhyw swm yn yr ewyllys gan y byddai unrhyw rhoddion a oedd yn gyfanswm o fwy na £325,000 yn destun treth etifeddiaeth o 40%. Tra bod Mr Forsyth efallai wedi cytuno ar lafar y byddai ei wraig wedyn yn trosglwyddo rhai asedau i’r plant doedd dim sicrwydd y byddai hynny'n digwydd. Gallai hi wrthod/ailbriodi/marw heb ewyllys.
• Mae dosbarthu asedau ar gyfer teuluoedd tebyg yn fater anodd a gall achosi tensiynau mawr o fewn teuluoedd. Cynlluniwch eich ewyllys yn ofalus ac os yn bosibl, ceisiwch egluro i'ch anwyliaid eich dymuniadau a'ch rhesymeg.

