Gwylio'r Geiniog - Tachwedd 2022
Yn dilyn Datganiad yr Hydref gan y Canghellor, Jeremy Hunt, dyma'r prif materion i'w nodi:
-
Bydd Gwarant Pris Ynni y Llywodraeth yn parhau o fis Ebrill 2023 ymlaen, gan gyfyngu biliau ynni i gyfartaledd o £3,000 y flwyddyn, yn hytrach na'r cyfyngiad presennol o £2,500.
-
Cyhoeddwyd taliadau costau byw ychwanegol i gefnogi’r rheini sydd mwyaf bregus mewn cymdeithas, gan gynnwys £900 i’r rhai sydd ar fudd-daliadau, £300 i bensiynwyr a £150 i’r rheini sydd ar fudd-dal anabledd.
-
Bydd y pensiwn gwladol yn cynyddu 10.1% o fis Ebrill 2023.
-
Mae'r lwfans personol ar gyfer treth incwm a'r trothwy ar gyfer treth incwm ar gyfradd uwch wedi cael eu rhewi tan 2028. Bydd hyn yn golygu wrth i gyflogau godi dros y blynyddoedd i ddod, bydd mwy o dreth yn cael ei dalu gan bawb, hyd yn oed os bydd cyfraddau treth incwm yn aros yr un fath.
-
Bydd y lwfans di-dreth ar gyfer difidendau yn gostwng o £2,000 i £1,000 ym mis Ebrill 2023 ac yn gostwng eto i £500 o fis Ebrill 2024. Mae hyn yn debygol o arwain at fwy o unigolion yn cael eu dal gan ofynion i gyflwyno ffurflenni treth o fis Ebrill 2023 ymlaen.
-
Gostyngwyd y trothwy ar gyfer treth incwm ar gyfradd ychwanegol (45%) o £150,000 i £125,140 o 6 Ebrill 2023.
-
Comisiynwyd adolygiad o oedran pensiwn gwladol. Bydd hyn yn debygol o arwain at gynnydd yn oedran cychwyn pensiwn gwladol i 67 neu o bosibl 68 ymhen ychydig flynyddoedd.
-
Bydd rhaid i gerbydau trydan dalu treth cerbyd o £165 y flwyddyn o 1 Ebrill 2025. Bydd cerbydau trydan newydd sy'n costio dros £40,000 hefyd yn talu'r treth ychwanegol ar geir drud ('expensive car supplement').
Cwestiynau Huw ac Aled: dwi'n perchen ar asedau ariannol, fel buddsoddiadau, ac asedau eraill gan gynnwys tŷ rhent. Sut mae Datganiad yr Hydref yn effeithio arna i?
Gwnaeth Jeremy Hunt gyhoeddi bydd y lwfans di-dreth ar gyfer treth ar eiddo yn gostwng o £12,300 i £6,000 ym mis Ebrill 2023 ac yn gostwng eto i £3,000 o fis Ebrill 2024. Bydd hyn yn arwain at fil treth ar eiddo o dros £1,000 yn fwy i unrhyw un sy'n gwerthu ased o fis Ebrill 2023 ymlaen.
Os ydych yn ystyried gwerthu tai neu buddsoddiadau, efallai ei fod yn synhwyrol i chi wneud hyn cyn mis Ebrill 2023. Os oes angen cymorth arnoch gyda chyfrifiadau treth ar eiddo, cysylltwch â ni a cofiwch bod angen talu treth ar eiddo o werthiant tai o fewn 60 diwrnod o ddyddiad y gwerthiant.

