Gwylio'r Geiniog - Chwefror 2023
- Un effaith o'r cynnydd dychrynllyd ym mhris nwy a thrydan yn ddiweddar yw bod prynwyr a rhentwyr eiddo yn chwilio am dai sy'n defnyddio egni yn effeithlon (bandiau egni A-C). Mae yna 7 band o A i G (mae band G yn aneffeithlon iawn o ran defnydd egni ac felly'n ddrud i gadw).
Os oes ganddoch dŷ ym mand D neu is ac rydych yn ystyried gwerthu'r tŷ neu os ydych yn landlord sy'n ystyried gosod y tŷ ar rhent, mae angen i chi wirio os oes angen buddsoddi mewn gwelliannau i'r tŷ fel ei fod yn fwy effeithlon yn defnyddio egni, neu gall hyn arwain at ostyngiad yng ngwerth y tŷ neu i'r swm rhent misol a dderbyniwyd.
Yn ogystal, mae rhai darparwyr morgeisi yn cyfyngu faint o flaendal y gall landlordiaid/ prynwyr cartrefi ei dderbyn os oes gan y tŷ sgôr effeithlonrwydd ynni gwael.
- Daliwch ati i fod yn effro i sgamiau. Mae'r sgamiau diweddaraf yn cynnwys pobl yn honni eu bod yn codi arian i ddioddefwyr daergryn Twrci-Syria. Gallwch dderbyn alwad ffôn, ebost neu desct yn gofyn i chi ddilyn cyfarwyddiadau amheus i wneud rhodd. Ewch i wefannau swyddogol yr elusennau sy'n codi arian tuag at yr achos yma, er mwyn osgoi peryg sgamiau.
Cwestiynau Huw ac Aled: mae iechyd fy modryb oedrannus yn dirywio ac efallai y bydd angen iddi fynd mewn i gartref yn fuan. Beth yw'r goblygiadau ariannol? Mae ganddi gynilion o £300,000 ac incwm o £2,000 y mis.
Yn gyntaf, os nad ydych eisoes wedi gwneud hynny, sicrhewch fod gennych ddogfennau Atwrneiaeth ('Power of Attorney') Ariannol ac Iechyd mewn lle fel eich bod yn gallu parhau i ofalu amdani wrth iddi ddod yn fwy bregus ac wrth i’w gallu meddyliol leihau.
Os yw hi mewn iechyd rhesymol, hi fydd yn gyfrifol am dalu ffioedd y cartref gofal a gall hyn fod yn ddrud iawn (tua £80,000 y flwyddyn yng Nghaerdydd am gartref o ansawdd da).
Os bydd ei chynilion wedi gostwng i £50,000 ar ôl ychydig o flynyddoedd, yna gallwch wneud cais i’r cyngor lleol am gymorth ariannol i dalu canran sylweddol o ffioedd y cartref gofal. Bydd asesiad gofal yn cael ei gynnal ac os bydd ei hiechyd wedi parhau i ddirywio’n sylweddol, bydd y Cyngor yn camu i'r adwy i dalu’r rhan fwyaf o ffioedd y cartref gofal a bydd eich modryb yn talu canran o’r ffioedd ar sail ei hincwm misol.
Nodyn: gall canllawiau ynghylch cynilion unigolion ar gyfer talu ffioedd gofal amrywio fesul cyngor.

