Ar ddechrau'r Flwyddyn Newydd, bydd rhai unigolion yn meddwl bod eu materion ariannol mewn trefn, tra bydd eraill yn meddwl 'Mae gwir angen i mi roi trefn ar hyn'. Rydym wedi dod ar draws rhai unigolion a ddechreuodd y broses o ddrafftio eu hewyllysiau dros 5 mlynedd yn ôl, ac maent yn dal heb eu cwblhau a’u llofnodi!
- Os nad oes ganddoch ewyllys clir a chyfredol, bydd eich ystâd yn cael ei rannu yn unol â rheolau diffyg ewyllys ('intestacy') sydd, yn y bôn, yn dilyn y llinell gwaed ('bloodline'). Gall hyn arwain at bartneriaid di-briod yn derbyn dim, tra bod aelodau'r teulu yn elwa p'un a ydych am iddynt wneud hynny neu beidio. Bydd hyn yn gadael llanast i'ch teulu i'w ddatrys.
- Dyma enghraifft o beth all ddigwydd os nad yw'ch materion ariannol mewn trefn:
Ar ôl ysgariad chwerw ac yna ail briodas hapus iawn, ni ddiweddarodd y gŵr ffurflen "expression of wishes" ei bensiwn. Bu farw’r gŵr yn sydyn a hawliodd y wraig a ysgarwyd gyntaf ei bensiwn, gan mai hi oedd wedi ei henwi ar y ffurflen. - Os oes ganddoch chi asedau sylweddol, mae angen i chi gynllunio ac i o leiaf fod yn ymwybodol o'ch sefyllfa Treth Etifeddiaeth. Os byddwch yn cynllunio’n ddigon cynnar, gall hyn arwain at ostyngiadau sylweddol yn eich bil posibl o Dreth Etifeddiaeth.
- Y dogfennau pwysig eraill i’w trefnu, yn enwedig ar gyfer unigolion sydd dros oedran pensiwn, yw Atwrneiaeth ('Power of Attorney') Ariannol ac Iechyd sy’n caniatáu i’ch teulu / ffrindiau agos ofalu am faterion os byddwch yn mynd yn ddifrifol o sâl.
- Ydych chi wedi gwneud rhestr o’ch asedau ariannol ac a yw eich perthnasau/ffrindiau ry'ch chi'n ymddiried ynddynt fwyaf yn gwybod ble mae’r rhestr yn cael ei gadw? Mewn achos o farwolaeth gynnar / analluogrwydd bydd hyn o leiaf yn sicrhau bod eich holl asedau ar gael i'ch ystâd.
Mae hyn yn arbennig o bwysig gyda'r cynnydd parhaus yn y defnydd o fancio ar-lein. Fel arall, efallai y bydd eich cynilion yn dod yn rhan o’r biliynau o bunnoedd o asedau sydd heb eu hawlio ac sy’n eistedd yn segur gyda’r sefydliadau ariannol mawr. - Gwiriwch bod eich cyfrifon cynilo yn talu cyfradd llog derbyniol – does dim esgusodion dros gadael symiau mewn cyfrifon sy’n talu’n isel, o ystyried y cynnydd yng nghyfraddau llog yn ystod y 18 mis diwethaf.
- Gwiriwch eich cofnod Yswiriant Gwladol a’ch rhagolwg Pensiwn y Wladwriaeth ar wefan Gov.uk i gywiro unrhyw wallau nawr, cyn i chi ymddeol.

