Cymraeg
Cymraeg

Sefydlwyd Cyfrifwyr Huw Aled Accountants ym mis Chwefror 2020 er mwyn rhoi cymorth i unigolion gyda'u cyfrifon a'u trethi. Rydym yn arbenigo mewn cyfrifon a threthi ar gyfer unigolion hunan gyflogedig, landlordiaid, uwch reolwyr ac ‘expats’. Mae'r iaith Gymraeg yn bwysig iawn i Huw ac Aled gan eu bod nhw’n dau yn Gymry Cymraeg iaith gyntaf.

  1. Ym mis Ionawr, bu llawer o ddryswch yn y cyfryngau, gyda nifer yn meddwl bod yn rhaid iddynt ddatgan pob gwerthiant ar wefannau megis ebay a Vinted ar ei ffurflen dreth, a thalu treth ar eu henillion. Doedd hyn ddim yn gywir. Dyw'r rheolau treth heb newid o ran beth sydd angen cael ei ddatgan i'r Swyddfa Dreth. Mae gan unigolion 'lwfans masnachu' di-dreth o £1,000 felly, fel man cychwyn, os yw'ch enillion blynyddol o werthu eitemau yn llai na £1,000, mae’r incwm yn ddi-dreth.

    Ar ben hynny, os nad ydych yn gwerthu eitemau yn rheolaidd neu os nad ydych yn bwriadu gwneud elw o werthu eitemau, mae'n annhebygol y byddwch yn cael eich nodi fel "masnachwr" gan y Swyddfa Dreth ac felly nid yw'r incwm yn drethadwy.

 

  1. Wrth i bobl barhau i gael trafferthion gyda chostau byw, mae llawer wedi penderfynu dechrau derbyn eu pensiwn personol yn gynt. Mae taliadau cyntaf pensiwn personol yn aml yn cael eu trethu ar gyfradd o 40% gan bod y Swyddfa Dreth yn defnyddio côd treth anghywir. Gellir adennill y dreth a ordalwyd trwy lenwi ffurflenni penodol a dylid prosesu’r ad-daliad o fewn 30 diwrnod. Gall yr ad-daliad fod gwerth miloedd o bunnoedd.

 

Cwestiynau Huw ac Aled: rwyf wedi bod yn defnyddio 'app' ar fy ffôn i brynu a gwerthu nifer fach o gyfranddaliadau. Nid wyf yn credu fy mod wedi gwneud unrhyw elw, ond a oes angen i mi ddatgan unrhyw beth i'r Swyddfa Dreth?

Rydym wedi gweld cynnydd rhyfeddol yn nifer yr unigolion sy’n defnyddio gwefannau ac apiau, fel Trading 212 ac eToro, i brynu a gwerthu cyfranddaliadau ar-lein. Mae'r rhan fwyaf yn defnyddio'r apiau hyn fel hobi, gan arwain at nifer fach o drafodion bob wythnos.

Mae hyn wedi arwain at ddau bwynt sy’n peri pryder i ni:

(i) Buddsoddi: mae nifer o wefannau yn codi ffi am bob trafodyn. Gall unrhyw elw ar fuddsoddiadau bach ddiflannu'n llawn o ganlyniad i'r taliadau hyn. Mae'n bwysig iawn bod pobl yn deall risgiau buddsoddi a'r costau o ddefnyddio'r gwefannau hyn.

(ii) Treth: gall prynu a gwerthu cyfranddaliadau, hyd yn oed ar y raddfa fach hon, greu goblygiadau treth. Yn gyntaf, mae angen datgan unrhyw ddifidendau neu incwm llog ar eich ffurflen dreth, ac yn ail, gall treth ar eiddo ('capital gains tax') fod yn ddyledus ar unrhyw 'elw' o werthu cyfranddaliadau gan bod y lwfans di-dreth ar gyfer treth ar eiddo bellach wedi gostwng i £6,000 ac yn gostwng eto i £3,000 o 6 Ebrill 2024.

Yn olaf, dyw’r rhan fwyaf o’r gwefannau hyn ddim yn darparu datganiad blynyddol sy'n dangos faint o enillion neu colledion a wnaed yn ystod y flwyddyn, sy'n ei gwneud hi'n anoddach i gyfrifo os oes unrhyw dreth yn ddyledus. Byddwch yn ymwybodol o hyn wrth baratoi eich gwybodaeth treth blynyddol.

Gwylio'r Geiniog

Our Services

One of the most significant changes to personal income tax is taking place from April 2026 onwards and action is…
Huw and Aled are specialists in the field of taxation for individuals, in particular the preparation of self assessment tax…
Huw and Aled have significant experience in assisting individuals with understanding, quantifying and reporting their capital gains tax liabilities to…
Expat taxation services are offered to expats who are living abroad on a temporary or permanent basis. Our client base…
Slide 1a
Image is not available

"You have made what is a complicated situation very clear. Thank you very much for your contribution."
"Rydych chi wedi gwneud yr hyn sy'n sefyllfa gymhleth yn glir iawn. Diolch yn fawr iawn am eich cyfraniad."

Dewi Llwyd
Dros Ginio (BBC Radio Cymru)
Slide 1

“Thank you so much for sorting out my capital gains tax. I can finally put closure on the situation, which believe me is a huge weight off my shoulders.”

Slide 1

“Diolch yn fawr am eich cymorth. Rydych wedi bod yn help mawr ac wedi rhoi tawelwch meddwl i fi.”

“Thank you very much for your assistance. You have been a real help and given me peace of mind.”

Slide 1

From a client who's originally from Germany and has started working self-employed in the UK. We've been helping her to understand the UK tax system:

“Thank you very much for your patience, I really appreciate it. If only we could have lectures at university about things like this! That makes perfect sense, thank you very much.”

Slide 1

"Thanks once again for your help this year. I've had a bit of a nightmare with accountants in the last few years. I'm so glad to have found one who is so approachable and knowledgeable and a nice bloke to top it off."

Slide 1

“Diolch yn fawr iawn Aled am eich gwaith trylwyr. Mae'r cwmwl wedi codi!”

"Thank you very much Aled for your thorough work. The clouds have lifted!"

Slide 1

"I just received your newsletter today. As you know, I live out of the country and hence find it slightly difficult to keep up to date with the financial updates within the UK. Your newsletters are heaven-sent, for me. Please keep up the good work."

Slide 1

"Huw Aled Accountants have been a lifeline throughout the COVID-19 pandemic, notifying me of several grants and funds to which I could apply for my business, having been ineligible for government schemes. I am very grateful for their continued support and expertise."

Slide 1

"Your newsletter alerted me to a support fund made available to freelancers as a result of Covid-19. I have successfully received funding, which has made a significant difference to me at a time when work has dried up during lockdown. Thank you very much for all your support!"

Slide 1


"I want to express my sincere gratitude for your efficient service. It has truly been a breath of fresh air."

previous arrow
next arrow