Cymraeg
Cymraeg

Sefydlwyd Cyfrifwyr Huw Aled Accountants ym mis Chwefror 2020 er mwyn rhoi cymorth i unigolion gyda'u cyfrifon a'u trethi. Rydym yn arbenigo mewn cyfrifon a threthi ar gyfer unigolion hunan gyflogedig, landlordiaid, uwch reolwyr ac ‘expats’. Mae'r iaith Gymraeg yn bwysig iawn i Huw ac Aled gan eu bod nhw’n dau yn Gymry Cymraeg iaith gyntaf.

Wedi'r etholiad cyffredinol, mae'n bosib y bydd newidiadau sylweddol yn cael eu cyhoeddi dros yr wythnosau a misoedd nesaf ynghylch nifer o drethi gwahanol. Yn benodol:

 

  1. Pensiynau

 

Mae nifer o feysydd gwahanol o fewn y byd pensiynau y gall y Llywodraeth eu newid:

 

  • Pensiwn Gwladol: mae'r rheini sy'n derbyn Pensiwn Gwladol bellach wedi dechrau talu treth ar yr incwm yma, gan fod rhewi'r lwfans personol di-dreth, ynghyd â chynnydd y 'clo triphlyg' yn y Pensiwn Gwladol wedi arwain at y sefyllfa lle mae'r pensiwn yn uwch na'r lwfans di-dreth.

    Mae hyn wedi creu gwaith sylweddol i'r Swyddfa Dreth i gasglu'r treth yma, felly efallai y byddwn yn gweld datrysiad fel lwfans personol newydd, uwch ar gyfer pensiynwyr.

 

  • Rhyddhad treth ar gyfraniadau i bensiwn: ar hyn o bryd, rhoddir rhyddhad treth ar gyfraniadau pensiwn ar eich cyfradd treth uchaf (40% neu 45%, os yn berthnasol). Gall hyn newid wedi'r etholiad, felly os ydych yn ystyried gwneud cyfraniad sylweddol i bensiwn, ystyriwch yr effaith o newidiadau posib gan y Llywodraeth.

 

  1. Treth ar eiddo

 

  • Mae cyfraddau treth ar eiddo wedi aros yn gyson dros y blynyddoedd diwethaf (ac eithrio'r cyfradd uwch ar werthiant tai preswyl a gafodd ei ostwng o 28% i 24% o fis Ebrill 2024).

 

  • Gan ystyried efallai na fydd treth incwm, TAW na chyfraddau yswiriant gwladol yn cynyddu wedi'r etholiad, mae treth ar eiddo yn faes lle gall Llywodraeth newydd newid cyfraddau.

 

  • Os ydych yn y broses o werthu ased, efallai yr hoffech geisio o leiaf cyfnewid contractau gwerthu cyn unrhyw gyhoeddiad gan y Llywodraeth, er mwyn osgoi cynnydd posibl yn eich bil treth.

 

  1. Treth etifeddiaeth

 

  • Ychydig iawn o sylw cafodd ei roi i dreth etifeddiaeth gan y prif bleidiau yn yr wythnosau cyn yr etholiad cyffredinol.

 

  • Efallai gwelwn newidiadau posib i'r mesurau rhyddhad treth sydd ar gael ar gyfer treth etifeddiaeth, e.e. gostyngiad yn y rhyddhad treth ar gyfer busnesau ac eiddo amaethyddol. Gall hyn effeithio ar gynlluniau teuluoedd ar gyfer treth etifeddiaeth wedi'r etholiad.

 

Byddwn yn parhau i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi am newidiadau sylweddol i drethi a chyhoeddiadau ariannol y Llywodraeth!

Gwylio'r Geiniog

Our Services

One of the most significant changes to personal income tax is taking place from April 2026 onwards and action is…
Huw and Aled are specialists in the field of taxation for individuals, in particular the preparation of self assessment tax…
Huw and Aled have significant experience in assisting individuals with understanding, quantifying and reporting their capital gains tax liabilities to…
Expat taxation services are offered to expats who are living abroad on a temporary or permanent basis. Our client base…
Slide 1a
Image is not available

"You have made what is a complicated situation very clear. Thank you very much for your contribution."
"Rydych chi wedi gwneud yr hyn sy'n sefyllfa gymhleth yn glir iawn. Diolch yn fawr iawn am eich cyfraniad."

Dewi Llwyd
Dros Ginio (BBC Radio Cymru)
Slide 1

“Thank you so much for sorting out my capital gains tax. I can finally put closure on the situation, which believe me is a huge weight off my shoulders.”

Slide 1

“Diolch yn fawr am eich cymorth. Rydych wedi bod yn help mawr ac wedi rhoi tawelwch meddwl i fi.”

“Thank you very much for your assistance. You have been a real help and given me peace of mind.”

Slide 1

From a client who's originally from Germany and has started working self-employed in the UK. We've been helping her to understand the UK tax system:

“Thank you very much for your patience, I really appreciate it. If only we could have lectures at university about things like this! That makes perfect sense, thank you very much.”

Slide 1

"Thanks once again for your help this year. I've had a bit of a nightmare with accountants in the last few years. I'm so glad to have found one who is so approachable and knowledgeable and a nice bloke to top it off."

Slide 1

“Diolch yn fawr iawn Aled am eich gwaith trylwyr. Mae'r cwmwl wedi codi!”

"Thank you very much Aled for your thorough work. The clouds have lifted!"

Slide 1

"I just received your newsletter today. As you know, I live out of the country and hence find it slightly difficult to keep up to date with the financial updates within the UK. Your newsletters are heaven-sent, for me. Please keep up the good work."

Slide 1

"Huw Aled Accountants have been a lifeline throughout the COVID-19 pandemic, notifying me of several grants and funds to which I could apply for my business, having been ineligible for government schemes. I am very grateful for their continued support and expertise."

Slide 1

"Your newsletter alerted me to a support fund made available to freelancers as a result of Covid-19. I have successfully received funding, which has made a significant difference to me at a time when work has dried up during lockdown. Thank you very much for all your support!"

Slide 1


"I want to express my sincere gratitude for your efficient service. It has truly been a breath of fresh air."

previous arrow
next arrow