Yn dilyn Cyllideb y Canghellor ar 30 Hydref 2024, cafodd rhestr hir o fesurau eu cyhoeddi i geisio llenwi'r bwlch yng nghyfrifon y wlad. Dyma grynodeb o rai o'r mesurau pennaf:
-
Cyfraddau treth incwm, Yswiriant Gwladol (i weithwyr) a Threth Ar Werth wedi'i rhewi, yn unol ag addewidion y Llywodraeth yn eu maniffesto.
-
Mae'r Llywodraeth wedi ymrwymo i'r clo driphlyg ar y Pensiwn Gwladol, bydd yn codi 4.1% ym mis Ebrill 2025 (tua £470 i bob pensiynwr).
-
Treth tanwydd wedi'i rewi am flwyddyn arall; treth alcohol am godi yn unol â chwyddiant o Chwefror 2025 ymlaen (oni bai am gwrw o'r gasgen bydd yn cael toriad treth o un geiniog y peint); treth newydd ar 'vapes' o Hydref 2026 ymlaen gyda chynnydd pellach yn y dreth ar dybaco.
-
Cyfraddau treth ar eiddo wedi aros yr un peth ar gyfer tai preswyl (ar 18% a 24%), ond y cyfraddau ar gyfer pob ased arall wedi codi o 10% a 20% i 18% a 24%, yn effeithiol yn syth o 30 Hydref 2024 ymlaen.
-
Cyfraddau Yswiriant Gwladol i gyflogwyr am godi o 13.8% i 15% o Ebrill 2025 ymlaen. Mae'r trothwy lle mae cyflogwyr yn dechrau talu Yswiriant Gwladol ar gyflogau gweithwyr hefyd yn gostwng o £9,100 i £5,000 y flwyddyn, gan gynyddu costau i fusnesau.
-
Newidiadau sylweddol i dreth etifeddiaeth, gan gynnwys:
-
Lwfans di-dreth (y 'nil rate band') yn cael ei rewi tan Ebrill 2030. Wrth i brisiau asedau godi dros amser, bydd mwy o ystadau yn cael eu dal gan dreth etifeddiaeth.
-
Ni bydd modd bellach i ddefnyddio pensiynau i osgoi treth etifeddiaeth, oherwydd bydd gwerth unrhyw bensiynau yn cael eu cynnwys yng nghyfrifiadau treth eteifeddiaeth o Ebrill 2027 ymlaen.
-
O Ebrill 2026, bydd rhyddhad treth etifeddiaeth ar gyfer busnesau a ffermydd (a thir ffermio) yn newid, fel mai dim ond y miliwn cyntaf o asedau bydd yn cael eu heithrio o dreth etifeddiaeth, gyda treth o 20% yn ddyledus ar y gweddill. Bydd hyn yn achosi pryder difrifol i ffermwyr.
-
Rhyddhad treth ar gyfer portffolio o gyfranddaliadau AIM hefyd wedi ei haneru.
-
Byddwn yn parhau i roi'r wybodaeth ddiweddaraf ichi am newidiadau sylweddol i drethi a chyhoeddiadau ariannol y Llywodraeth!

