Cymraeg
Cymraeg

Sefydlwyd Cyfrifwyr Huw Aled Accountants ym mis Chwefror 2020 er mwyn rhoi cymorth i unigolion gyda'u cyfrifon a'u trethi. Rydym yn arbenigo mewn cyfrifon a threthi ar gyfer unigolion hunan gyflogedig, landlordiaid, uwch reolwyr ac ‘expats’. Mae'r iaith Gymraeg yn bwysig iawn i Huw ac Aled gan eu bod nhw’n dau yn Gymry Cymraeg iaith gyntaf.

Gyda diwedd y flwyddyn dreth yn prysur agosau a gyda newidiadau treth posib ar y gweill gyda Datganiad y Gwanwyn gan y Canghellor ar 26 Mawrth, dyma rhai faterion i chi ystyried cyn diwedd y flwyddyn dreth:

  1. Taliadau bonws - ydych chi'n rhagweld byddwch yn derbyn bonws mawr wrth eich cyflogwr cyn diwedd y flwyddyn dreth? Os felly, dylech chi wirio os bydd y bonws yn golygu bydd cyfanswm eich incwm yn croesi trothwy treth uwch, neu yn croesi trothwy i orfod ad-dalu budd-dal plant.

    Os bydd y bonws yn codi cyfanswm eich incwm dros £50,270, byddwch yn talu peth treth incwm ar 40%. Os bydd cyfanswm eich incwm, gyda'r bonws, rhwng £100,000 a £125,140, efallai byddwch yn talu treth incwm ar 60%(!) ar rywfaint o'ch incwm.

    Mae modd lleihau'r faich treth mewn rhai amgylchiadau, trwy opsiynau megis taliadau pensiwn personol neu rhoddion elusennol, ond mae angen cwblhau unrhyw daliadau fel hyn cyn 5 Ebrill 2025.

  2. Rhoddion - ydych chi'n bwriadu gwneud unrhyw rhoddion ariannol i aelodau o'r teulu? Gallwch roi hyd at £3,000 bob blwyddyn dreth bydd wedi'i heithrio rhag treth etifeddiaeth. Hefyd, os nad ydych wedi defnyddio lwfans £3,000 y flwyddyn blaenorol, mae modd cario'r lwfans yma ymlaen hyd at un blwyddyn treth yn unig. 

  3. Cyfrifon Cynilo Unigol (ISAs) - ydych chi wedi defnyddio eich lwfans ISA di-dreth o £20,000 yn llawn eleni? Mae cyfraddau llog uwch ar gynilion yn golygu bod nifer yn derbyn llog sy'n fwy na'r lwfans di-dreth (sef £1,000 ar gyfer trethdalwyr cyfradd sylfaenol a £500 ar gyfer trethdalwyr cyfradd uwch).

    Gwiriwch gyda'ch priod/partner os ydynt wedi defnyddio ei lwfans blynyddol a chofiwch bod eich plant hefyd yn derbyn lwfans ISA ar wahân o £9,000 y flwyddyn.

  4. Lwfans priodas - gall pâr priod/partneriaeth sifil arbed hyd at £252 o dreth incwm bob blwyddyn os yw un partner yn ennill llai na £12,570 ac os yw'r partner arall yn drethdalwr cyfradd sylfaenol (h.y. incwm blynyddol o dan £50,270). Mae'r Swyddfa Dreth yn nodi gall mwy na 2 miliwn o barau fod yn gymwys i hawlio 'lwfans priodas'. Gwiriwch os ydych yn gymwys ar wefan Gov.uk.

  5. Gwerthu asedau - cofiwch gwnaeth cyfraddau treth ar eiddo newid ym mis Hydref 2024 ar gyfer gwerthiant pob ased (oni bai am gwerthiant tai preswyl). O 30 Hydref 2024 ymlaen, cododd cyfraddau treth ar werthiant asedau o 10%/20% i 18%/24%. 

    Cofiwch felly, wrth asesu'ch bil treth am eleni, os ydych chi wedi gwerthu asedau megis cyfranddaliadau yn ystod y flwyddyn, bydd angen defnyddio cyfraddau treth gwahanol, gan ddibynnu ar ddyddiad y gwerthiant. (Dyw hyn ddim yn effeithio ar werthiant tai preswyl.)

Cysylltwch os hoffech drafod unrhyw fater cyn diwedd y flwyddyn dreth.

 

Gwylio'r Geiniog

Our Services

One of the most significant changes to personal income tax is taking place from April 2026 onwards and action is…
Huw and Aled are specialists in the field of taxation for individuals, in particular the preparation of self assessment tax…
Huw and Aled have significant experience in assisting individuals with understanding, quantifying and reporting their capital gains tax liabilities to…
Expat taxation services are offered to expats who are living abroad on a temporary or permanent basis. Our client base…
Slide 1a
Image is not available

"You have made what is a complicated situation very clear. Thank you very much for your contribution."
"Rydych chi wedi gwneud yr hyn sy'n sefyllfa gymhleth yn glir iawn. Diolch yn fawr iawn am eich cyfraniad."

Dewi Llwyd
Dros Ginio (BBC Radio Cymru)
Slide 1

“Thank you so much for sorting out my capital gains tax. I can finally put closure on the situation, which believe me is a huge weight off my shoulders.”

Slide 1

“Diolch yn fawr am eich cymorth. Rydych wedi bod yn help mawr ac wedi rhoi tawelwch meddwl i fi.”

“Thank you very much for your assistance. You have been a real help and given me peace of mind.”

Slide 1

From a client who's originally from Germany and has started working self-employed in the UK. We've been helping her to understand the UK tax system:

“Thank you very much for your patience, I really appreciate it. If only we could have lectures at university about things like this! That makes perfect sense, thank you very much.”

Slide 1

"Thanks once again for your help this year. I've had a bit of a nightmare with accountants in the last few years. I'm so glad to have found one who is so approachable and knowledgeable and a nice bloke to top it off."

Slide 1

“Diolch yn fawr iawn Aled am eich gwaith trylwyr. Mae'r cwmwl wedi codi!”

"Thank you very much Aled for your thorough work. The clouds have lifted!"

Slide 1

"I just received your newsletter today. As you know, I live out of the country and hence find it slightly difficult to keep up to date with the financial updates within the UK. Your newsletters are heaven-sent, for me. Please keep up the good work."

Slide 1

"Huw Aled Accountants have been a lifeline throughout the COVID-19 pandemic, notifying me of several grants and funds to which I could apply for my business, having been ineligible for government schemes. I am very grateful for their continued support and expertise."

Slide 1

"Your newsletter alerted me to a support fund made available to freelancers as a result of Covid-19. I have successfully received funding, which has made a significant difference to me at a time when work has dried up during lockdown. Thank you very much for all your support!"

Slide 1


"I want to express my sincere gratitude for your efficient service. It has truly been a breath of fresh air."

previous arrow
next arrow