Cymraeg
Cymraeg

Sefydlwyd Cyfrifwyr Huw Aled Accountants ym mis Chwefror 2020 er mwyn rhoi cymorth i unigolion gyda'u cyfrifon a'u trethi. Rydym yn arbenigo mewn cyfrifon a threthi ar gyfer unigolion hunan gyflogedig, landlordiaid, uwch reolwyr ac ‘expats’. Mae'r iaith Gymraeg yn bwysig iawn i Huw ac Aled gan eu bod nhw’n dau yn Gymry Cymraeg iaith gyntaf.

1)     Datganiad y Gwanwyn - dyma'r prif benawdau o ddatganiad y Canghellor ar 26 Mawrth 2025:

a.     Dim cynnydd ychwanegol yng nghyfraddau treth incwm, TAW nac Yswiriant Gwladol (i weithwyr).

b.     Rhagolygon o'r twf yn economi'r wlad eleni wedi'i haneru o 2% i 1%.

c.      Dim newidiadau i lwfansau Cyfrifon Cynilo Unigol (ISAs), ond gyda nodyn efallai bydd hyn yn newid yng Nghyllideb yr Hydref.

d.     Cynnydd mewn cosbau am dalu TAW neu treth incwm yn hwyr - o fis Ebrill 2025, bydd cyfraddau cosb newydd o 3% o'r dreth sy'n ddyledus os yw'r taliad 15 diwrnod yn hwyr, gyda 3% arall os yw'r taliad 30 diwrnod yn hwyr ac os os yw'n fwy na 31 diwrnod yn hwyr bydd y cyfradd yn codi i 10%. Cofiwch am ddyddiadau cau taliadau treth!

 

2)     Gwneud Treth Incwm yn Ddigidol - mae'r Swyddfa Dreth yn cyflwyno canllawiau newydd bydd yn ei gwneud hi'n ofynnol, o Ebrill 2026 ymlaen, i unigolion hunangyflogedig a landlordiaid i gyflwyno diweddariadau o'i hincwm a'i gwariant i'r Swyddfa Dreth bob chwarter.

Bydd hyn yn newid mawr i nifer o drethdalwyr ac rydym wedi asesu'r canllawiau newydd yn llawn. Ceir y wybodaeth ar y newidiadau yma ar ein gwefan sef, https://huwaledaccountants.com/

 

Cwestiynau Huw ac Aled

C: Beth sy'n digwydd i ystâd unigolyn sy'n marw heb ewyllys? A yw'n wir y gall y Goron hawlio ystâd rhywun os nad oes ganddynt unrhyw berthnasau?

A: Nid oes ewyllys gan dros hanner o bobl Prydain ac os ydych yn marw heb ewyllys, bydd eich ystâd yn cael ei rannu yn unol â chanllawiau 'diffyg ewyllys' neu 'intestacy'. Fel arfer, gall partnerniaid priod/sifil a rhai perthnasau agos etifeddu ystâd unigolyn o dan y canllawiau yma. 

Os nad oes unrhyw berthnasau agos ganddynt ar ôl a all etifeddu'r ystâd, mae'r ystâd yn cael ei drosglwyddo i'r Goron. Gelwir hyn yn 'bona vacantia'.

Credir bod tua 6,000 o ystadau heb eu hawlio yng Nghymru a Lloegr ar hyn o bryd.

Lle nad oes perthynas agos amlwg, ambell waith mae cwmniau yn cael eu cyflogi i geisio dod o hyd i berthnasau pell, a gall y perthnasau yma gyflwyno cais i hawlio'r ystâd.

Mae angen cyflwyno unrhyw geisiadau tebyg o fewn 30 mlynedd o ddyddiad marwolaeth yr unigolyn (oni bai eich bod chi'n byw yng Nghernyw).

Oherwydd hen gyfraith o'r Oesoedd Canol, os bydd person yng Nghernyw yn marw heb ewyllys, a heb perthnasau ar ôl, mae'r ystâd yn mynd yn syth i Dywysog Cymru. Mae rheol debyg hefyd ar waith yn ardal Lancaster, lle mae'r ystâd yn mynd yn syth i Ddugiaeth Caerhirfryn ('Duchy of Lancaster'), sy'n eiddo i'r Brenin.

Y ffordd orau i leihau unrhyw gymhlethdodau gyda'ch ystâd yw i drefnu ewyllys ddilys.

Gwylio'r Geiniog

Our Services

One of the most significant changes to personal income tax is taking place from April 2026 onwards and action is…
Huw and Aled are specialists in the field of taxation for individuals, in particular the preparation of self assessment tax…
Huw and Aled have significant experience in assisting individuals with understanding, quantifying and reporting their capital gains tax liabilities to…
Expat taxation services are offered to expats who are living abroad on a temporary or permanent basis. Our client base…
Slide 1a
Image is not available

"You have made what is a complicated situation very clear. Thank you very much for your contribution."
"Rydych chi wedi gwneud yr hyn sy'n sefyllfa gymhleth yn glir iawn. Diolch yn fawr iawn am eich cyfraniad."

Dewi Llwyd
Dros Ginio (BBC Radio Cymru)
Slide 1

“Thank you so much for sorting out my capital gains tax. I can finally put closure on the situation, which believe me is a huge weight off my shoulders.”

Slide 1

“Diolch yn fawr am eich cymorth. Rydych wedi bod yn help mawr ac wedi rhoi tawelwch meddwl i fi.”

“Thank you very much for your assistance. You have been a real help and given me peace of mind.”

Slide 1

From a client who's originally from Germany and has started working self-employed in the UK. We've been helping her to understand the UK tax system:

“Thank you very much for your patience, I really appreciate it. If only we could have lectures at university about things like this! That makes perfect sense, thank you very much.”

Slide 1

"Thanks once again for your help this year. I've had a bit of a nightmare with accountants in the last few years. I'm so glad to have found one who is so approachable and knowledgeable and a nice bloke to top it off."

Slide 1

“Diolch yn fawr iawn Aled am eich gwaith trylwyr. Mae'r cwmwl wedi codi!”

"Thank you very much Aled for your thorough work. The clouds have lifted!"

Slide 1

"I just received your newsletter today. As you know, I live out of the country and hence find it slightly difficult to keep up to date with the financial updates within the UK. Your newsletters are heaven-sent, for me. Please keep up the good work."

Slide 1

"Huw Aled Accountants have been a lifeline throughout the COVID-19 pandemic, notifying me of several grants and funds to which I could apply for my business, having been ineligible for government schemes. I am very grateful for their continued support and expertise."

Slide 1

"Your newsletter alerted me to a support fund made available to freelancers as a result of Covid-19. I have successfully received funding, which has made a significant difference to me at a time when work has dried up during lockdown. Thank you very much for all your support!"

Slide 1


"I want to express my sincere gratitude for your efficient service. It has truly been a breath of fresh air."

previous arrow
next arrow