1. Cyhoeddodd yr FCA (yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol) yn ddiweddar bydd taliadau iawndal o gamwerthu yng nghytundebau cyllid ar geir yn debygol o fod tua £700 yr un.
Does dim angen i chi ddefnyddio cwmni cyfreithiol i hawlio'r iawndal. Os ydych chi'n credu eich bod â chais dilys am iawndal, cysylltwch â'ch benthyciwr i ddechrau'r achos. Efallai y byddwch yn cael eich cymeradwyo i dderbyn iawndal yn gynt trwy fynd at eich benthyciwr, yn hytrach nag aros am gynllun iawndal yr FCA i lansio y flwyddyn nesaf.
2. Ydych chi'n gyfarwyddwr ar gwmni cyfyngedig sydd wedi'i gofrestru gyda Thŷ'r Cwmnïau? Os felly, efallai eich bod wedi derbyn e-byst yn egluro y bydd angen 'gwirio hunaniaeth' cyfarwyddwyr o 18 Tachwedd 2025 ymlaen.
Mae hwn yn gais dilys gan Dŷ'r Cwmnïau (ond byddwch yn wyliadwrus o e-byst posibl gan dwyllwyr). Mae'r broses gwirio yn syml iawn, yn enwedig os oes gennych drwydded yrru a phasbort. Gwiriwch gyda'ch cyfrifydd os ydych yn ansicr o'r broses.
3. Byddwch yn ofalus o ddylanwadwyr cyfryngau cymdeithasol sy'n portreadu eu hunain fel cynghorwyr ariannol. Mae nifer ohonynt yn annog dilynwyr i fuddsoddi, er nad ydynt yn gymwys i roi cyngor ariannol. Byddwch yn ymwybodol bod rhai dylanwadwyr yn cael eu talu i hyrwyddo buddsoddiadau penodol. Gwnewch yn siŵr eich bod bob amser yn derbyn cyngor proffesiynol cyn gwneud penderfyniadau buddsoddi. Os yw'n swnio'n rhy dda i'w gredu, dyma sgam!
Cwestiynau Huw ac Aled
C: Mae fy ngŵr a minnau yn ein 70au ac yn mwynhau ein hymddeoliad. Penderfynon ni beidio â chael unrhyw blant ein hunain, ac oherwydd nad oes gan fy ngŵr na minnau unrhyw deulu agos chwaith, rydym yn treulio ein hamser gyda ffrindiau ac yn gwirfoddoli gydag elusennau. Ble dylen ni ddechrau o ran cynllunio ar gyfer treth etifeddiaeth?
A: Mae nifer cynyddol o bobl heb blant ac felly pan mai'r ateb i'r cwestiwn "pwy fydd yn etifeddu eich cyfoeth" yw "nid y plant", mae'n cymryd fwy o amser i ystyried pwy hoffech chi iddo dderbyn beth o'ch ystâd.
Oes gennych chi unrhyw gefndryd rydych chi wedi colli cysylltiad â nhw, ond yr hoffech iddynt dderbyn swm penodol o arian, neu i dderbyn eitem teuluol hanesyddol? Beth am ffrindiau agos sydd wedi bod yn gefn i chi'ch dau ar hyd y blynyddoedd? Gan eich bod yn gwirfoddoli gydag elusennau, ydych chi wedi ystyried gadael swm i elusen penodol?
Mewn erthygl yn y Financial Times, roedd un unigolyn wedi penderfynu "y byddai'n well ganddo adael canran o'i ystâd i leian sy'n bragu cwrw yn yr Almaen oherwydd ei fod wedi mwynhau ei chynnyrch dros y blynyddoedd."
Nid oes angen i'ch penderfyniad fod mor ddramatig, ond mae gennych chi gymaint o opsiynau ag y dymunwch. Y cam cyntaf, pwysig, yw i drafod hyn gyda'ch gŵr ac i lunio cynllun cyn cyfarfod â chyfreithiwr.

