Cymraeg
Cymraeg

Sefydlwyd Cyfrifwyr Huw Aled Accountants ym mis Chwefror 2020 er mwyn rhoi cymorth i unigolion gyda'u cyfrifon a'u trethi. Rydym yn arbenigo mewn cyfrifon a threthi ar gyfer unigolion hunan gyflogedig, landlordiaid, uwch reolwyr ac ‘expats’. Mae'r iaith Gymraeg yn bwysig iawn i Huw ac Aled gan eu bod nhw’n dau yn Gymry Cymraeg iaith gyntaf.

  1. Am haf o wres! Wrth i ni agosáu at yr hydref, dyma cwpl o ddatblygiadau ym maes biliau ynni:

i. Bydd TAW yn cael ei ddileu ar filiau trydan o 1 Hydref 2026 (arbediad blynyddol o tua £45);

ii. Mae Ofgem wedi cyhoeddi bydd y cap pris ynni yn codi 4% ym mis Hydref, gan ychwanegu £60 at gostau ynni blynyddol.

Daliwch ati i geisio dod o hyd i'r cytundebau gorau ar gyfer eich costau ynni!

  1. Mae'r Llywodraeth wedi lansio ymgynghoriad i newid cyfreithiau etifeddu ar gyfer rheini sy'n cyd-fyw ond heb briodi. Ar hyn o bryd, os bydd un partner mewn cwpl di-briod sy'n cyd-fyw yn marw heb adael ewyllys ddilys, nid oes gan y partner sy'n goroesi hawl awtomatig i etifeddu o'u hystâd.

Y bwriad yw i gael "model clir a syml", lle mae pobl sy'n cyd-fyw (manylion i'w cadarnhau), yn derbyn yr un hawliau â pharau priod/partneriaid sifil. Yn y cyfamser, os ydych chi'n cyd-fyw, sicrhewch fod gennych ewyllys ddilys er mwyn sicrhau bod eich ystâd yn cael ei ddosbarthu yn ôl eich dymuniad.


Cwestiynau Huw ac Aled

C: Aeth fy nai i drafferthion ariannol yn ddiweddar, felly penderfynais benthyg arian iddo er mwyn iddo allu talu ei ddyledion, ar yr amod y byddai yn fy nhalu yn ôl yn llawn dros yr ychydig o flynyddoedd nesaf. Roedd e'n ddiolchgar iawn am y cymorth, felly cytunwyd ar yr holl delerau ar lafar. Ar ôl dim ond ychydig fisoedd, ac yn hollol annisgwyl, mae wedi atal ei daliadau misol i mi, ac wedi dweud wrthyf nad yw'n bwriadu ad-dalu'r gweddill. Beth yw fy hawliau yma, a beth alla i ei wneud? Rwyf bellach yn teimlo fel ffŵl am gynnig ei helpu yn y lle cyntaf.

A: Dyma sefyllfa anodd, ac un sydd, wrth reswm, yn peri gofid i chi. Os byddech chi wedi trefnu ac arwyddo cytundeb ffurfiol cyn benthyg yr arian, byddai hynny wedi gwneud gwahaniaeth enfawr. Y cam cyntaf yw i feddwl yn ôl i'r adeg y gwnaethoch chi roi'r arian i'ch nai yn wreiddiol. Pa delerau manwl y cytunwyd arnynt, ac a oes unrhyw dystiolaeth ysgrifenedig o hyn, fel e-bost neu neges destun, a fyddai'n helpu i ddangos yr hyn a gytunwyd ar y pryd?

Os nad oes modd trafod ymhellach gyda'ch nai, dylech gysylltu â'ch cyfreithiwr i weld pa opsiynau cyfreithiol sydd ar gael. Gall yr opsiynau hyn gynnwys mynd i'r llys i adennill y ddyled, neu os yw'r swm sy'n ddyledus yn fwy na £5,000, efallai y byddwch chi'n gallu cyflwyno 'galw statudol' ('statutory demand') ar eich nai. Lle mae arian yn ddyledus rhwng aelodau'r teulu, mae'n synhwyrol i chi geisio dod i benderfyniad cyfeillgar cyn cychwyn achos cyfreithiol.

Mae'r wers yn un syml: pryd bynnag y byddwch chi'n benthyca arian i deulu neu ffrindiau, faint bynnag yr ydych chi'n ymddiried ynddynt, gwnewch yn siŵr bod telerau'r cytundeb wedi'u nodi'n glir ar bapur.

Gwylio'r Geiniog

Our Services

One of the most significant changes to personal income tax is taking place from April 2026 onwards and action is…
Huw and Aled are specialists in the field of taxation for individuals, in particular the preparation of self assessment tax…
Huw and Aled have significant experience in assisting individuals with understanding, quantifying and reporting their capital gains tax liabilities to…
Expat taxation services are offered to expats who are living abroad on a temporary or permanent basis. Our client base…
Slide 1a
Image is not available

"You have made what is a complicated situation very clear. Thank you very much for your contribution."
"Rydych chi wedi gwneud yr hyn sy'n sefyllfa gymhleth yn glir iawn. Diolch yn fawr iawn am eich cyfraniad."

Dewi Llwyd
Dros Ginio (BBC Radio Cymru)
Slide 1

“Thank you so much for sorting out my capital gains tax. I can finally put closure on the situation, which believe me is a huge weight off my shoulders.”

Slide 1

“Diolch yn fawr am eich cymorth. Rydych wedi bod yn help mawr ac wedi rhoi tawelwch meddwl i fi.”

“Thank you very much for your assistance. You have been a real help and given me peace of mind.”

Slide 1

From a client who's originally from Germany and has started working self-employed in the UK. We've been helping her to understand the UK tax system:

“Thank you very much for your patience, I really appreciate it. If only we could have lectures at university about things like this! That makes perfect sense, thank you very much.”

Slide 1

"Thanks once again for your help this year. I've had a bit of a nightmare with accountants in the last few years. I'm so glad to have found one who is so approachable and knowledgeable and a nice bloke to top it off."

Slide 1

“Diolch yn fawr iawn Aled am eich gwaith trylwyr. Mae'r cwmwl wedi codi!”

"Thank you very much Aled for your thorough work. The clouds have lifted!"

Slide 1

"I just received your newsletter today. As you know, I live out of the country and hence find it slightly difficult to keep up to date with the financial updates within the UK. Your newsletters are heaven-sent, for me. Please keep up the good work."

Slide 1

"Huw Aled Accountants have been a lifeline throughout the COVID-19 pandemic, notifying me of several grants and funds to which I could apply for my business, having been ineligible for government schemes. I am very grateful for their continued support and expertise."

Slide 1

"Your newsletter alerted me to a support fund made available to freelancers as a result of Covid-19. I have successfully received funding, which has made a significant difference to me at a time when work has dried up during lockdown. Thank you very much for all your support!"

Slide 1


"I want to express my sincere gratitude for your efficient service. It has truly been a breath of fresh air."

previous arrow
next arrow